digwyddiadau

Y Glerorfa
7fed Mawrth - 6ed Tachwedd 2010

SAITH CYNGERDD YN 2010

Bydd 2010 yn flwyddyn anarferol o brysur i`r Glerorfa, Cerddorfa Werin Cymru, gyda saith o gyngherddau bellach wedi eu cadarnhau.

Golyga hyn fod yr aelodau, sy`n dod o bob rhan o Gymru, bellach yn cyfarfod yn fisol i ymarfer. Golyga hefyd fod y gwaith gweinyddu a threfnu yn cynyddu`n arw!



Yr uchafbwynt fydd perfformio mewn cyngerdd Celtaidd mawr yng Nghanolfan y Mileniwm ar Galan Mai.



Bydd y cyngerdd cyntaf yn Rhyl ar Fawrth 7fed a`r olaf yn Aberystwyth ar Dachwedd 6ed. Dyma`r rhestr gyflawn:



7 Mawrth - Pafiliwn Rhyl (cyngerdd i godi arian at achosion da, gyda Mark Evans, Côr Rhuthun a Chôr Ysgol Glan Clwyd)

8 Ebrill - Galeri, Caernarfon (fel rhan o`r Ŵyl Delynau Ryngwladol, gyda Sian James)

1 Mai - Canolfan y Mileniwm (gyda Calan, Sian James, Nolwen Korbell, Lleuwen Steffan a Bagad o Lydaw)

2 Gorffennaf - Gŵyl Rhuthun

22 Awst - Gŵyl Tegeingl, Yr Wyddgrug

16 Hydref - Canolfan Ucheldre, Caergybi (cyngerdd agoriadol Gŵyl Gelfyddydau Caergybi)

6 Tachwedd - Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth



Y Glerorfa yw`r gerddorfa gyntaf o`i bath erioed yng Nghymru, gyda’r aelodau i gyd yn perthyn i Clera, Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru. Daeth 40 ohonynt at ei gilydd gyntaf ar achlysur cyngerdd i ddathlu penblwydd Clera yn 10 oed yn Nhachwedd 2006. Yr ymateb brwd i`r cyngerdd hwnnw a arweiniodd at sefydlu`r Glerorfa o ddifri ac at y datblygu a fu wedi hynny. Erbyn hyn mae nifer yr aelodau wedi codi i 60, gyda 30 arall wedi gwneud cais i ymuno.



Nod y Glerorfa yw cyflwyno alawon traddodiadol Cymru - yn ogystal ag alawon newydd, gwreiddiol gyda naws draddodiadol - mewn dull newydd a hwyliog, a thrwy hynny fywiogi`r byd gwerin yng Nghymru drwyddo draw.



Cyfarwyddwyr Cerdd y Glerorfa yw Stephen Rees (Cadeirydd Clera) a Robin Huw Bowen.





Am ragor o fanylion cysylltwch â:

Stephen Rees 01248 600427

neu Robin Huw Bowen 01970 627458



 
 
 
« NÔL I'R DUDALEN RESTRU LAWN
 
Bywgraffiadau wedi cyhoeddi - Mofydd Owen; David Vaughan Thomas; Mervyn Burtch; Alun Hoddinott

Ar gael o Ganolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru-029 20635640 neu e-bost gwybodaeth@wmic.org. £3 yr un
mwy o wybodaeth..
 
 
CYSYLLTU Â NI
Canolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru
Tŷ Cerdd
Canolfan Mileniwm Cymru
Caerdydd
CF10 5AL
+44 (0) 2920 635640 T
+44 (0) 2920 635641 F
gwybodaeth@wmic.org E
 


amdanom ni | digwyddiadau | beth sy’n newydd |cyfleoedd
catalog |recordiadau | cyfansoddwyr | cysylltu â ni

HAFAN CYFANSODDWYR AMDANOM NI CYSYLLTU A NI BETH SY'N NEWYDD DIGWYDDIADAU RECORDIADAU CATALOG CYFLEOEDD HAFAN